AWDL
Prosiect gan Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE)
Dyfarnwyd cyllid i CARE gan Lywodraeth Cymru, yr UE a’r Loteri i ddatblygu Garej y Sgwar – hen lain ddiwydiannol yn Hermon – i greu man heddychlon, sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar gyfer prosiectau creadigol.
Wedi'i chreu o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a deunyddiau naturiol lle bynnag y bo modd, mae Y Stiwdio yn ymgorffori technoleg arbed ynni a chynhyrchu cost isel yn y dyluniad.
Bydd Y Stiwdio yn ofod creadigol lle mae croeso i esgidiau glaw. Lle i wneud, dysgu a thyfu.
Cynlluniwyd y rhaglen mewn ymgynghoriad â'n cymuned. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a lles, dysgu am ynni cynaliadwy, ffyrdd o fyw a phrosesau adeiladu a chyfleoedd i dyfu bwyd a blodau yn ein gardd.
Bydd ein gardd yn cael ei dylunio gan wirfoddolwyr lleol fel rhan o'r prosiect 'Bwydo ein Cymuned'.
Dilynwch ni ar Instagram gan ddefnyddio @ystiwdio
Cylchlythyr diweddaraf: